Nawddsant yw'r enw a ddefnyddir i ddisgrifio sant sy'n gofalu'n arbennig am ryw le neu rywrai penodol (gan amlaf cyfyngir y term i'r traddodiad Cristnogol). Gall nawddsant ofalu am wlad neu genedl neu grŵp o bobl ond llawer mwy cyffredin yw'r nawddseintiau sy'n gofalu am eglwys neu blwyf.
Dewi Sant yw nawddsant Cymru a chenedl y Cymry. Yn ynysoedd Prydain ac Iwerddon y nawddseintiau eraill yw Padrig (Iwerddon), Andreas (yr Alban), Siôr (Lloegr) a Piran a Phedrog (Cernyw).
Mae rhai nawddseintiau yn cysylltiedig â grwpiau o bobl, gan amlaf yn ôl eu crefft neu waith, er enghraifft Sant Fiacre yw nawddsant gyrwyr tacsis a cherbydau.[1] Ystyrir Sant Cristoffr a Sant Meugan yn nawddseintia'r teithiwr. Mae rhai o'r seintiau eraill yn edrych ar ôl pobl yn ôl eu cyflwr, e.e. Dwynwen a Ffolant yn achos cariadon.
Ceir nifer mawr o seintiau llai yn y traddodiad Cymreig a Cheltaidd, weithiau'n gysylltiedig â sawl lle ond weithiau hefyd gyda dim ond un eglwys neu blwyf yn eu gofal. Un enghraifft yng Nghymru yw Sant Twrog, nawddsant Llandwrog a Maentwrog yng Ngwynedd.
Yn yr eglwys Gatholig y nawddseintiau mwyaf cyffredin yw'r Forwyn Fair, yr archangel Mihangel a'r Efengylwyr.
Mae gan bob nawddsant ei ŵyl neu wyliau arbennig. 1 Mawrth yw dyddgwyl Dewi, er enghraifft. Ar lefel lleol mae gan nawddsant eglwys neu blwyf ei ddiwrnod arbennig a elwir yn Ŵyl Mabsant.